
UNED5 Yda chi'n gwbod pa ddiwrnod ydi hi? Nachdach? Wel, Dydd Sul di siwr! Ar y rhaglen heddiw, Iwan John, Barri Wreslar a Magi Dodd fydd yn cadw cwmni i ni, a Lowri Evans fydd yn canu tua dechra a diwedd y rhaglen!!! Ac, fel ar mae yna wobrau gwych sef oriawr sydd hefyd yn ffon, a Nintendo DSi! Ffandabidoso!!!

UNED5
Nathoch chi fethu Uned 5 Dydd Sul? Rhag eich cywilydd chi. OND peidiwch a phoeni! Cewch weld uchafbwyntia y rhaglen wrth fynd yma: http://www.uned5.co.uk/rhaglen/diwethaf. html , a gewch chi weld be oedd yn digwydd tu ol i'r lleni yma: http://www.uned5.co.uk/s/3arcm !
www.uned5.co.uk
Daeth Rhydian Roberts i amlygrwydd ar ôl dod yn ail yn y bedwaredd gyfres o’r X-Factor. Ers hynny mae ei yrfa cerddorol wedi mynd o nerth i nerth. Yn fyd enwog erbyn hyn, rhyddhawyd ei albwm gyntaf Rhydian yn 2008 gyda'r ail albwm, O Fortuna, allan ar 30ain o Dachwedd 2009.

UNED5 Ewch am sbec i wefan Uned 5, syrffiwch i'r adran Cystadleuthau i roi cynnig i ennill albym 'O Fortuna' Rhydian Roberts - wedi ei arwyddo, Hunangofiant Malcom Allen ac 4 Tocyn i weld Cymru yn herio Awstralia! Ond brysiwch - mae'r gystadleuaeth tocynau yn cau mewn awr! Magi Dodd, Barri Griffiths ac Iwan John fydd yn ymun...o gyda ni Dydd Sul, gyda cerddoriaeth gan Lowri Evans a hyd yn oed mwy o gystadleuthau! Pob lwc!!!

UNED5 Ar y rhaglen y comediwr Iwan John, cyflwynwraig C2 Magi Dodd a'r reslar anferth Barri Griffiths. Rhydian yn edrych ar sut mae cylchgrawn ffilmiau'n cael ei gynhyrchu a cyfle i ennill Nintendo DSi! Hyn i gyd a mwy...

UNED5 Ma' na gyffro mawr yn y stiwdio heddiw!!! Rhydian Roberts - IA RHYDIAN ROBERTS fyd yn canu can ac yn cadw cwmni i ni, ynghyd a Elin Fflur a Ffion Williams! Mi fydd na hefyd gyfle i chi ennill Teledu LCD HD a 4 tocyn i weld Cymru yn herio Awstralia!!!

UNED5 Mae Dydd Sul rownd y gornel! Ar y rhaglen yr wythnos hon mae Rhydian Roberts, Elin Fflur a Ffion Williams! Mi fydd Geth wrthi'n brysur yn y gegin unwaith eto, a cawn weld sut hwyl gafodd Tudur a Llinos yn trio gwisgoedd Strictly Come Dancing! Ac wrth gwrs - cewch gyfle i ennill tocynnau i weld Cymru yn herio Awstralia!!!

UNED5
Ydi, ma'n wir! Mae Rhydian Roberts o'r X-Factor yn dod i Stwidio Uned 5 Dydd Sul! A dyma eich cyfle chi i ofyn cwestiwn iddo!!! Am fwy o fanylion, cerwch i:
http://www.uned5.co.uk/gwestai/rhydian.h tml
www.uned5.co.uk
Dydd Sul yma bydd y canwr Rhydian Roberts yn ymweld âg Uned5 am sgwrs ac i drafod ei albwm newydd. Yn ymuno â fo yn y stiwdio bydd Ffion Williams, a’r gantores Elin Fflur. Byddwn yn edrych ar wisgoedd ...

UNED5
Os basa chi yn cael gofyn un cwestiwn i Rhydian Roberts, be fasa'r cwestiwn? Gan ei fod o yn ymuno gyda ni yn y stiwdio Dydd Sul, da ni yma yn Uned 5 yn rhoi y cyfle i chi ofyn rwbath iddo! Felly, dechreuwch feddwl a ewch i fama: http://www.uned5.co.uk/gwestai/rhydian.h tml i lewni'r ffurflen!!! Pwy a wyr - efallai y bydd Rhydian yn ateb eich cwestiwn chi!

UNED5 Mae'r gystadleuaeth i ennill 4 tocyn i'r gem Cymru v Ariannyn bellach wedi cau, ond dal i ddod, mae yna gyfle i chi ennill dau docyn i'r gem, a chyfle i fynd i gaffi 'Rownd a Rownd' i gael cinio gyda'r cast. Ac ar y wefan, sef www.uned.co.uk, mae yna gyfle arall i chi ennill dau docyn i'r gem!!! Fyddwch chi'n lwcus?!

UNED5 Gobeithio eich bod chi'n barod am raglen arall o Uned 5!!! Yn y stiwdio heddiw mae Dyfrig Evans, Gareth Jewell a Sarra Elgan. Mi fydd Brigyn yn canu dwy gan, a cewch gyfle i ennill wyth tocyn i'r gem Cymru v Ariannyn!!! Gwyliwch!

UNED5 Mae hi'n Ddydd Gwener, sydd ddim ond yn golygu un peth... Bod rhaglen arall o Uned 5 rownd y gornel!!! Brigyn fydd yn perfformio i ni yn y stiwdio, a Sarra Elgan, Dyfrig Evans a Gareth Jewell fydd yn cadw cwmni i ni! Ac wrth gwrs - fe gewch chi gyfle i ennill wyth tocyn i'r gem rygbi Cymru v Ariannyn. Peth gwirion fasa peidio gwylio!!!

UNED5 Peidiwch digaloni os 'na fuoch chi ddigon lwcus i ennill y pedwar tocyn cyntaf i weld Cymru v Samoa! Mae yna dal gyfle i chi ennill pedwar tocyn arall, ac iPod Nano! Heb son am Cwis y Gwestai a pherfformiad arall gan Gai Toms!

UNED5 Mae Dydd Sul wedi cyrraedd o'r diwedd! Yn y stiwdio heddiw, mae Aled Pugh, Elin ac Ifan o Rownd a Rownd, El Parisa (a fydd yn canu can acwstic), a Gai Toms yn perfformio dwy gan. Peidwich ac anghofio bod yna gyfle i chi ennill wyth tocyn i'r gem rygbi Cymru v Samoa, ac iPod Nano! Ac os nad ydi hynny yn ddigon o reswm i... chi wylio, cewch weld be sy'n digwydd trwy ddrws y bac yn 'Merlin'!!!

UNED5 Yndi - mae Dydd Sul yn agosau yn sydyn iawn! Aled Pugh, Elin ac Ifan o 'Rownd a Rownd, ac El Parisa fydd yn cadw cwmni i ni yn y stiwdio! Mi fydd El Parisa yn ei'n diddanu gyda can acwstic, ac mi fydd Gai Toms yn perfformio dwy gan. Cewch hefyd gyfle i ennill wyth tocyn i gem Cymru v Samoa, ac iPod Nano! Phew - mai'n m...ynd i fod yn raglen llawn dynn dop!!!













