
Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Os Wnaethoch chi golli cyfweliad Rhydian ar y rhaglen bore 'ma - dyma y ddolen ar gyfer y BBC i-player! Joiwch!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo! Fyddwn ni'n camu i fyd y cwis fory gan edrych ar yr atebion mwyaf gwyllt a gwalltgof sydd wedi cael eu rhoi dros y blynyddoedd!! Beth yw'r ateb mwyaf gwirion chi erioed wedi ei glywed, neu wedi ei roi? Dewch nawr, peidiwch a bod yn swil!! Welwn ni chi fory am 08:30!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Bore da!! Mae cyfweliad Rhydian ar y ffordd!!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo!! Rhydian 'y llais' Roberts fydd ein gwestai arbennig fory!! Hefyd fe fydd Derfel yn ein arwain drwy deledu'r wythnos!! Welwn ni chi am 08:30 bore fory!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo! Ma' fe tu ôl i chi!! O na 'd yw e ddim!! Ie, ni'n mynd i fyd y pantomeim dydd Llun!! Fyddwn yn trafod y cymeriadau drwg 'na sy'n hanfodol i BOB panto - Y Chwiorydd Hyll, Y Lys-fam Greulon, Y Wrach neu'r Dewin! Pa gymeriad neu bantomeim yw'ch ffefryn? Gadewch ni wybod! Joiwch y penwythnos a welwn ni chi dydd Llun am 8:30!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Bore da!!!!! Mae'n ddydd Gwener a'r cwestiwn ni'n gofyn bore ma yw... Pwy oedd ar eich wal chi pan oeddech chi yn iau? Dewch nawr... rhannwch!! Jabas? Caryl? Paul Young? Duran Duran? Fydd Derfel yma yn y man i siarad am Gavin and Stacey hefyd... rhaglen lawn!! Yma tan 10:30!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo! Ni ar drothwy'r penwythnos! Hwre! Poster o bwy oedd gennych ar eich wal pan oeddech yn iau? Jabas? Briget Bardot? Adam Ant? Farrah Fawcett? Donny Osmand? Dyma fyddwn yn trafod fory! Mae Eleri a Daf yn barod i gyfadde'... ydych chi? Ta ta tan 8:30 bore fory!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo!! Ni'n mynd i fod yn ddifrifol ar y rhaglen fory... os gredwch chi hynny, gredwch chi unrhyw beth!! Dychmygwch fod y byd yn dod i ben fory...... beth fydde chi yn gwneud gyda'ch diwrnod heddiw? Mynd dramor? Treulio amser gyda teulu? Byw fel seren ffilm? Bwyta popeth chi ddim fod i fwyta? Gwario cannoedd ar y 'sgi...diau perffaith yna?Gadewch ni wybod!! Welwn ni chi bore fory am 08:30!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Bore da!!! Beth yw eich hoff arogleuon? Yw nhw'n eich atgoffa o'ch plentyndod? Bacwn? Gwair wedi ei dorri? Sglodion? Bara? Coffi? Blodau gwyllt? Traed??? Dyma fyddwn ni 'n ei drafod ar y rhaglen heddi! Gadewch ni wybod beth chi'n feddwl! Yma tan 10:30!!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo!! Beth yw eich hoff arogleuon? Yw nhw'n eich atgoffa o'ch plentyndod? Bacwn? Gwair wedi ei dorri? Sglodion? Bara? Coffi? Blodau gwyllt? Traed??? Dyma fyddwn ni 'n ei drafod ar y rhaglen fory! Gadewch ni wybod beth chi'n feddwl! Hwyl fawr tan 8:30 bore fory!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Bore da!! Y actor Richard Lynch fydd yn herio Cynghrair y Ceir bore 'ma! Unrhyw gwestiwn iddo, neu i Gary Monk...cysylltwch! Radio Cymru 8:30 - 10:30! Hwyl!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Bore da!! Ni'n ymlacio yn y stiwdio bore ma!! Sut chi'n cael gwared o 'stress'? Gadewch ni wybod gan mai dyma fyddwn ni'n ei drafod bore ma! Yma tan 10:30!

Eleri a Daf - BBC Radio Cymru Helo!! Fe fyddwn yn parhau gyda ysbryd y penwythos ar y rhaglen dydd Llun, trwy drafod sut chi'n delio gyda stress... a sut i ymlacio. Beth chi'n neud pan chi ar fin ffrwydro? Sut ydych chi'n dod a'r pwysau gwaed 'na i lawr? Rhannwch eich cyfrinachau gyda ni! Joiwch eich penwythnos.... ac ymlaciwch!!













